#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-0778[DW1] 

Teitl y ddeiseb: Amddiffyn y Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

§    gomisiynu astudiaeth ymchwil i ganfod cyflwr iechyd y gwelyau cyllyll môr a'u hyfywedd fel adnodd naturiol hirdymor, a rhoi moratoriwm ar waith ar gyfer pysgota cyllyll môr  hyd nes y gall yr ymchwil adrodd ar ei ganfyddiadau;

§    cadarnhau tymor 'caeedig' ar gyfer cynaeafu cyllyll môr sy'n cyd-fynd â'r tymor silio hy Mai i Fedi;

§    llunio rheoliadau yn ychwanegol at y lleiafswm maint glanio o 10cm i gynnwys cwotâu penodol y mae unigolion yn cael eu casglu; a

§    dwyn ymlaen deddfwriaeth a rheoliadau i ddiogelu'r cyllyll môr ar draeth Llanfairfechan.

"The mass harvesting of razor clams on Llanfairfechan beach has been a matter of concern for many residents and conservationists for a number of years." (Cyf: llythyr at Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet gan Janet Finch Saunders AC 28 Gorffennaf 2017.)

Ar hyn o bryd yr unig reolaeth reoliadol ar gyllyll môr yw bod yn rhaid iddynt fod â maint glanio lleiaf cyfreithiol o 10cm, ac mae gwiriadau sy'n ymwneud â rheoli'r hyn sy'n dod yn rhan o'r gadwyn fwyd. Mae llawer o drigolion yn pryderu am y diffyg ymddangosiadol o weithdrefnau a/neu reoliadau sy'n llywodraethu'r broses o gasglu cyllyll môr yn enwedig o ran dynodi tymor 'caeëdig' yn ystod silio, y cwotâu a ganiateir, a'r angen am gynnal gwaith ymchwil ar y cyllyll môr i ganfod yr effaith ar yr ecosystem a'r amgylchedd lleol.

Ers 2013 nodwyd gan nifer o ffynonellau fod cyllyll môr yn cael eu cynaeafu mewn niferoedd mawr o draeth Llanfairfechan. Mae tystiolaeth i gefnogi'r honiad hwn wedi cael ei dogfennu ar sawl achlysur yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae cais diweddar ar Hysbysfwrdd Llanfairfechan ar gyfer unrhyw luniau neu fideos o'r rheini sy'n casglu cyllyll môr yn dangos yn glir bod nifer fawr o bobl yn ymwneud â'r gweithgarwch hwn. Mae'r broses o gasglu'r cyllyll môr fel arfer yn digwydd ar ôl llanw uchel.

Dyma rywfaint o gefndir hanesyddol am y mater hwn. Yn 2013 amlygwyd y cynaeafu gan bapur newydd Weekly News gan Tom Davidson pan nodwyd fod 'criw o dros 100 o bobl yn cynaeafu llawer iawn o gyllyll môr...' Roedd pryderon hefyd fod gweithwyr anghyfreithlon yn cael eu hecsbloetio a bod y cyllyll môr yn cael eu pysgota at ddibenion masnachol. Ar y pryd, dywedodd un o'r trigolion ei fod 'wedi gweld golygfeydd tebyg yn ymwneud â nifer cynyddol o gasglwyr yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae trigolion yn ddig oherwydd y nifer helaeth o gynaeafwyr gan ofni y gellid niweidio'r cynefin lleol am byth, gyda channoedd o gyllyll môr yn cael eu cymryd o'r traeth yn rheolaidd." Mae ofnau am y casglwyr yn cael eu defnyddio fel rhan o gaethwasiaeth fodern a'r pysgod cregyn yn cyrraedd y gadwyn fwyd wedi cael eu hatal gan ymdrechion parhaus yr heddlu a'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae canlyniadau amgylcheddol y broses gyson a systematig o gasglu cyllyll môr yn parhau i fod yn broblem fawr, a all effeithio ar fywyd y môr ac adar eraill yn yr ardal, ynghyd ag achosi newidiadau posibl yn y dwysedd o dywod ar y traeth. Mae rhai pryderon ynglŷn â'r tywod yn ansefydlog mewn mannau a gallai pobl sy'n anghyfarwydd â'r traeth yn hawdd fynd i drafferthion e.e. mae rhai o'r casglwyr yn cynaeafu'r cyllyll môr gryn bellter i ffwrdd oddi wrth ddiogelwch y tir. Mae wedi bod yn eithaf diraddiol a rhwystredig i ddinasyddion cyffredin wylio'r ysbeilio o adnodd amgylcheddol ac yn cwestiynu pam mae sefydliadau sydd â chylch gwaith i warchod yr amgylchedd yn ymddangos i gael eu llyffetheirio oherwydd y diffyg gweithdrefnau/deddfau priodol. Mae hyn yn syndod o gofio bod traeth Llanfairfechan wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae'n rhaid bod rheoliadau o fewn y cyrff hyn o wybodaeth i fanteisio arnynt fel ffynhonnell i ddiogelu'r anghydbwysedd hwn mewn ecosystem o'r fath?

 

Cefndir

Cynaeafu cyllyll môr

Mae'r gyllell fôr (Ensis spp.) yn folwsg dwygragennog sy'n tyfu'n araf ac yn byw'n hir, gyda dwy gragen hirsgwar dal sy'n gallu cyrraedd hyd at 20cm o hyd (Ffigur 1). Fe'u canfyddir yn aml mewn ardaloedd rhynglanwol ac islanwol mwdlyd neu dywodlyd o amgylch arfordir Prydain. Mae cyllyll môr yn fwydwyr hidlo ac fel arfer maent yn byw yn fertigol mewn tyllau o fewn y gwaddod gyda dwy sifon bach (strwythurau tebyg i diwb) ar gyfer bwydo, y gellir eu gweld ar yr wyneb. Mae'r tymor silio'n digwydd yn yr haf.

Ffigur 1: Rhywogaethau masnachol o gyllyll môr yn y DU

[Ffynhonnell: Pyke, M. 2012. Evaluation of Good Handling Practice for Razor Clams. Seafish report CR184 (PDF 1.62MB)]

 

Gellir cynaeafu cyllyll môr mewn nifer o wahanol ffyrdd, er enghraifft, trwy eu casglu â llaw ar y blaendraeth gan ddefnyddio rhacanau a bwcedi fel arfer pan mae'r llanw'n isel, eu casglu trwy dreillio a'u casglu gan blymwyr. Yn ôl sgôr cynaliadwyedd Ensis spp Canllaw Pysgod Da y Gymdeithas Cadwraeth Forol:[DW2] 

Avoid eating clams harvested using illegal methods such as electrical fishing. Choose clams harvested in the wild by sustainable methods such as hand-gathering only. Avoid eating undersized animals (less than 10cm) and wild clams harvested during the spawning season (May - September).

Since the expansion of the fishery there have been no stock assessments and improved information on the state of the stocks is required.

Mae'r farchnad gynyddol ar gyfer cyllyll môr yn bennaf ar gyfer allforion gwerth uchel gaiff eu cludo trwy'r awyr i'r Dwyrain Pell ac Ewrop. 

 

Rheoli pysgodfeydd arfordir Cymru a deddfwriaeth pysgodfeydd y glannau

Datganolwyd rheolaeth dros bysgodfeydd i Gymru drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoli a rheoleiddio pysgodfeydd dyframaethu, rhynglanwol, masnachol a hamdden yng Nghymru, gan gynnwys ei moroedd tiriogaethol a (0-12nm) a Pharth Cymru (fel y nodwyd yng Ngorchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010). [DW3] 

Y  maint cyfeirio cadwraeth lleiaf yn nyfroedd y DU ar gyfer Ensis spp. yw 10cm.  Nid oes unrhyw reoli cwota ar waith ar gyfer pysgota cyllyll môr yng Nghymru. Mae Is-ddeddf 12 - Cyfyngiadau ar Bysgota am Bysgod Cregyn Molysgaidd Dwygragennog - yn berthnasol i Ogledd Cymru yn yr ardal 0-6 morfilltir (PDF 250KB) . Mae'n nodi: [DW4] [DW5] 

1. No person shall fish for bivalve molluscan shellfish, except

a) by hand; or

b) in the case of cockles with a craam, rake, spade or jumbo; or

c) in the case of mussels with a rake or in that part of the District which is inshore of a line drawn North true from Penmaen-Bach Point (Latitude 53o 17.3’ North, Longitude 03o 52.8’ West) to the high water mark at Gt. Ormes Head with a rake, provided that the rake is no more than 1 metre in width and that it is only used from a boat when the mussel bed has at least 1 metre of water over it; or

d) when using a dredge or other appliance where:

(i) such dredge or appliance is of a pattern approved in writing by the Committee, the Committee having been advised by scientists who in the opinion of the Committee appear to be suitably qualified to comment on the conservation and environmental implications;

(ii) such use is in accordance with a written authorisation issued by the Committee and with any conditions subject to which that authorisation was issued, including prohibitions on use at particular times, or in particular areas and definitions of the fishing instrument. Efallai y bydd y Pwyllgor hefyd yn ei gwneud yn ofynnol fel amod y bydd adroddiadau'n cael eu cyflwyno ar y rhywogaethau a'r symiau o bysgod cregyn molysgaidd dwygragennog a gesglir.

2. no person shall take or use on any mussel bed, any sledge or other contrivance which in the opinion of the Committee is likely to crush or loosen the mussels or loosen the foundations of the bed, without a written authorisation issued by the Committee.

3. no person shall dig in any mussel bed for any purpose without a written authorisation issued by the Committee.

Bu nifer o adroddiadau yn y cyfryngau am gasglu cyllyll môr masnachol ar y blaendraeth yn Llanfairfechan. Cyn 19 Awst 2017 (gweler yr adran ddilynol ar Gamau Gweithredu Llywodraeth Cymru) gellid casglu cyllyll môr i'w bwyta'n bersonol o'r ardal. Fodd bynnag, nid yw'r ardal wedi'i dosbarthu fel ardal cynaeafu pysgod cregyn  (gofyniad o dan Reoliad Ewropeaidd 854/2004). O'r herwydd ni ellir eu gwerthu i'r gadwyn gyflenwi, gan fod yn rhaid i bysgod cregyn gydymffurfio â rheolau diogelwch bwyd llym (safonau iechyd a hylendid). [DW(CyC|AC6] [DW(CyC|AC7] 

Asesu effeithiau gweithgareddau pysgota ar Ardaloedd Gwarchodedig Morol

Mae Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru [1](NRW) yn cydweithio i  asesu effeithiau gweithgareddau pysgota ar Ardaloedd Gwarchodedig Morol Cymru [2]. Mae Cam 1 y prosiect wedi'i gwblhau ac arweiniodd hyn at nifer o allbynnau gan gynnwys matrics risg o offer pysgota a modd o ryngweithio o ran nodweddion cynefin ac adroddiad cysylltiedig. Aseswyd gradd risg a chategori blaenoriaeth terfynol y matrics ar gyfer 'treilliau wedi'u tynnu ar gyfer cregyn gleision, cregyn cylchog a wystrys' yn erbyn pob cynefin yng Nghymru fel categori llwyd. Nodir yn yr adroddiad:[DW(CyC|AC8] 

Grey - interaction cannot feasibly or legally occur in Welsh waters or the activity is assessed in a Habitat Regulation Assessment under Article 6(3) of the Habitats Directive, it is therefore not considered further in the current round of assessments…

Ar gyfer rhywogaethau symudol, megis adar aber, morfilod a morloi, mae 'treilliau wedi'u tynnu ar gyfer cregyn gleision, cregyn cylchog a wystrys' wedi cael eu nodi fel rhyngweithio risg isel. Mae Cam 2 y prosiect yn mynd rhagddo gan CCC, a bydd yn asesu gweithgareddau risg uchel megis gêr symudol ar gynefinoedd creigres sensitif.  Bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn trafod yr asesiad ac yn penderfynu a oes angen mabwysiadu a chyflwyno datrysiadau rheoli priodol.

 

Rheoli Pysgodfa Cyllyll Môr yng ngogledd môr Iwerddon 

Oherwydd pryderon ynghylch diffyg cwota a hyfywedd y bysgodfa yng ngogledd môr Iwerddon yn y dyfodol (i'r gogledd o Fae Dulyn), a'r effeithiau posibl ar safleoedd Natura 2000 cyfagos, ymgymerodd Adran Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr Llywodraeth Iwerddon ag ymgynghoriad yn 2014. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cynigion rheoli ar gyfer y bysgodfa, a baratowyd gan Sefydliad Pysgotwyr Môr Gogledd Môr Iwerddon. Roedd y rhain yn cynnwys:[DW9] 

§    Cyfanswm Wythnosol Terfynau'r Daliadau a Ganiateir;

§    Tymor caeedig yn ystod y tymor silio (4 wythnos);

§    Ardaloedd caeëdig (i ganiatáu i welyau cregyn adfer, os yw cyfraddau dal yn dirywio islaw trothwy penodol);

§    Gwybodaeth a monitro (er enghraifft, casglwyr i gyflwyno data glanio o fewn 48 awr, llyfrau log llongau a dyfeisiau olrhain GPS ar longau); ac

§    Adolygiad o reolaeth (6 mis ar ôl eu cyflwyno ac yn flynyddol ar ôl hynny).

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn cyflwynwyd nifer o reoliadau. Gweithredodd Rheoliadau Cyllyll Môr (Cadw Stociau) (gogledd môr Iwerddon) 2015  derfyn dal wythnosol ar gyfer llongau a chyfyngu ar bysgota i rai dyddiau o'r wythnos (dydd Llun i ddydd Sadwrn yn unig). Cafodd y rheoliadau hyn eu diwygio wedyn i leihau'r terfyn wythnosol o 700kg y cwch yr wythnos, i 600kg y cwch yr wythnos. Cyflwynwyd tymor caeedig ar gyfer 2015 ar gyfer y tymor silio (12 Mehefin - 5  Gorffennaf) gan y Rheoliadau Cyllyll Môr (Cadw Stociau) (gogledd môr Iwerddon) (Tymor Silio) 2015. Ar ben hynny, ar 2 Mai 2015, cyflwynwyd y mesurau canlynol i Iwerddon gyfan ar gyfer cyllyll môr:

§    Rhwymedigaethau i bwyso a rhoi gwybod am yr holl achosion o lanio cyllyll môr;

§    Gofyniad i sicrhau bod pysgota'n digwydd dim ond mewn ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn sydd wedi eu dosbarthu ar gyfer cyllyll môr;

§    Gofyniad i bysgota mewn dim ond un dosbarth o ardal cynhyrchu pysgod cregyn, o safbwynt diogelwch bwyd môr, bob dydd; a

§    Rhwymedigaeth i longau yn nyfroedd Iwerddon i gario offer olrhain GPS.

O ran diogelu safleoedd Natura 2000, dywedodd y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr y byddai cynlluniau lliniaru yn cael eu datblygu ar gyfer safleoedd â nodweddion mewn perygl o rai gweithgareddau pysgota. Mae datgomisiynu llongau i leihau nifer y llongau sy'n targedu cyllyll môr hefyd yn cael ei ystyried.

 

Electrobysgota am gyllyll môr yn yr Alban

Ar hyn o bryd gwaherddir pysgota yn defnyddio trydan o dan Reoliad yr UE 850/98 (Erthygl 31).  Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2016, cafodd cynllun arbrofol electrobysgota cyfyngedig ei ganiatau am gyllyll môr gan Marine Scotland ym mis Ebrill 2017 mewn nifer o leoliadau cyfyngedig o gwmpas arfordir yr Alban. Mae'r dechneg hon yn cynnwys allyrru cerrynt trydan isel o stilwyr sy'n cael eu tynnu'n araf dros wely'r môr o long. Mae'r trydan yn tawelu'r cyllyll môr (ac anifeiliaid eraill ar wely'r môr) gan achosi iddynt ddod allan o'u tyllau, ac yna cânt eu dal gan blymwyr. Defnyddir yr arbrawf i gasglu gwybodaeth am stociau a strwythur poblogaethau. Yn ogystal, mae arolygon asesu stoc yn cael eu cynllunio. [DW(CyC|AC10] 

 

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ni ystyriwyd y mater hwn gan y Cyfarfod Llawn nac unrhyw Bwyllgor y Cynulliad.

 

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 19 Awst 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hysbysiad cyhoeddus dan Is-ddeddf 16 (Pysgodfa Pysgod cregyn - Cau Dros Dro) y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru blaenorol.  Daeth i rym am 00:01 ar 19 Awst 2017 ac mae'n gymwys tan 23:59 ar 31 Rhagfyr 2017. Mae'n nodi:

Ni chaiff neb dynnu, cymryd neu aflonyddu unrhyw gyllyll môr o wely neu ran o wely o gyllyll môr sydd wedi'i gau gan yr Hysbysiad hwn.

Mae'r hysbysiad hwn yn gymwys o ran gofod i:

Yr ardaloedd a gaewyd gan yr hysbysiadau hyn yw'r ardaloedd a elwir yn draethau Llanfairfechan a Phenmaenmawr sy'n gorwedd islaw llinell y Llanwau Serenyddol Uchaf sydd wedi'u ffinio yn y gorllewin gan Afon Llanfairfechan yn Llanfairfechan ac wedi'u ffinio yn y dwyrain gan ben dwyreiniol y Promenâd ym Mhenmaenmawr.

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi fel a ganlyn:[DW(CyC|AC11] 

Yn sgîl pryderon ynglŷn â chyflwr y gwelyau cyllyll môr ar draethau Llanfairfechan a Phenmaenmawr, rydym wedi cau’r pysgodfeydd cyllyll môr hyd 1af Ionawr 2018. Caniateïr hyn i ni gynnal arolwg o’r gwelyau cyllyll môr a sicrhau nad oes gorbysgota.

 

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 29 Awst 2017 at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn dweud:

Ar hyn o bryd, mae'r gwely cyllyll môr yn Llanfairfechan ar gau o ran casglu tan 1 Ionawr 2018.

Nawr bod y bysgodfa yn Llanfairfechan ar gau, bydd swyddogion yn comisiynu arolwg i sefydlu statws y stoc cyn i mi ystyried pryd y dylai'r bysgodfa ailagor neu a oes angen unrhyw gyfyngiadau neu newidiadau ychwanegol i'r ddeddfwriaeth gyfredol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r ymgynghorydd cadwraeth natur statudol i Lywodraeth Cymru, gan gynghori ar gynaliadwyedd amgylcheddol mesurau rheoli ar nodweddion Ardaloedd Gwarchodedig Morol.

[2] Mae Ardaloedd Gwarchodedig Morol yn cynnwys safleoedd Natura 2000 (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig).


 [DW1]Welsh

 https://www.assembly.wales/cy/gethome/e-petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=1229

 

 [DW2]Dim Welsh

 [DW3]http://www.assembly.wales/cy/bus-home/Pages/PlenaryItem.aspx?category=Ministerial%20Statement&itemid=661

 

 [DW4]Dim Welsh

 [DW5]Dim Welsh

 [DW(CyC|AC6]Dim Welsh

 [DW(CyC|AC7]Dim Welsh

 [DW(CyC|AC8]Welsh

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/marineandfisheries/marine-conservation-and-biodiversity/marine-protected-areas/AssessingtheimpactsoffishingactivitiesonMarineProtectedAreas/?skip=1&lang=cy

 [DW9]Dim welsh

 [DW(CyC|AC10]Dim Welsh

 [DW(CyC|AC11]Welsh

 http://gov.wales/topics/environmentcountryside/marineandfisheries/SeaFisheries/intertidalfisheriesnotices/llanfairfechan-penmaenmawr-razor-clam-fishery/?skip=1&lang=cy